Friday 12 January 2018


Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM


Podlediad yng nghwmni'r awdur Llwyd Owen.

Pennod 49 - Elin Gruffydd, Iwan Pitts a Hywel Pitts (aka Podpeth)

Pennod arbennig iawn o Does Dim Gair Cymraeg am Random i ddathlu Nadolig 2019, gyda chyflwynwyr un o fy hoff bodlediadau yn y byd, Podpeth, sef Elin Gruffydd ac Iwan a Hywel Pitts. Pynciau llosg: traddodiadau Nadoligaidd (briwsion bara, death-lists), uchafbwyntiau personol y flwyddyn (gorymdeithiau annibyniaeth, dyrnu mwncis, ymladd llewod, tyfu tash, inverted Hitler), Cystadleuaeth Cont y Flwyddyn 2019, Hyna Di’r Goss, anws-heulo, pysgod siâp pidyn a llawer mwy...




Pennod 48 - Lowri Cooke

Adolygiad y flwyddyn gyda’r beirniad bwyd a diod a’r celfyddydau, llais a wyneb cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru ac S4C, a hen ffrind o fy mhlentyndod yng Nghapel y Crwys, Lowri Haf Cooke. Pynciau llosg: traddodiadau Nadolig, teledu gorau 2019 (gan gynnwys Merched Parchus a Bry: Mewn Cyfyng Gyngor), ffilmiau gorau 2019 (The Irishman, A Marriage Story, Dolomite is My Name, Once Upon a Time in Hollywood), cerddoriaeth gorau 2019 (Rufus Mufasa, Los Blancos, Yr Ods, Carwyn Ellis a Rio 19, Lleuwen, MR, Quodega, 3 Hwr Doeth), llyfrau (The Testament, A Man Lies Dreaming, James Ellroy, Perthyn, Y Pumed Drws, Gwirionedd, Babel), siwmperi Nadoligaidd risque a sglefrio aaaaarhghhhhhhh!!!!!

Pennod 47 - Mark Roberts

Orig ddifyr yng nghwmni Mark Roberts, un o leisiau mwyaf adnabyddus y SRG a dyn sydd wedi cyfansoddi a chanu degau o ganeuon poblogaidd gyda’r bandiau Y Cyrff, Catatonia a MR (ymysg eraill) yn ystod gyrfa sy’n ymestyn yn ôl dros 30 o flynyddoedd. Pynciau llosg: dydd Sadwrn arferol seren roc, Dolemite is My Name, cartridges cerdd, Johnny Cash, Llanrwst, Lerpwl, y recorder, osgoi gwersi Ffrangeg, Y Cyrff, Tony Schiavone, The Clash, Rhys Mwyn, Maffia Mr Huws, Cam o’r Tywyllwch, Geraint Jarman, Y Testament Newydd, Yr Anhrefn, U-Thant, teithio Ewrop, Crumblowers, Cymru-Lloegr-a-Llanrwst, Catatonia, Mulder & Scully, Road Rage, gwerthu cachlwyth o records, y Rolling Stones a Jimmy White, Paul Jones, Y Ffyrc, Sherbet Antlers, The Earth, MR, Strange Town Records, daddy (un)cool a llawer mwy.

Pennod 46 - Rhydian Bowen Phillips

Sgwrs grwydrol gyda'r cyflwynydd amryddawn, Rhydian Bowen Phillips. Pynciau llosg: disgwyl, y Cymoedd, Cymreictod, Ysgol y Cymer, astudio yn America, MEGA, llysenwau, Eden, Planed Plant, iDot, Bandit, GLC, y fangre hon, Clifford Jones, Uned 5, La Bamba, Procar Poeth, sugno coc ar y teli, arferion gwylio newidiol, Cân i Gymru, Tân y Ddraig, marwolaeth Tommy Cooper, Fi Di Duw, marw yng Nghwmderi, Michael Sheen, llais pêl-droed Cymru, cariad at iaith, cyfweld Lionel Messi, enwau plant sili, tats a mwy.



Pennod 45 - Esyllt Sears ac Eleri Morgan

Sgwrs hollol sili gyda’r comediwyr Esyllt Sears ac Eleri Morgan.
Pynciau llosg: dyled, Caeredin, The Shamen, labia Esyllt, #MuthaOfTwo, Gwasanaethau T-Bay, Waitrose v M&S, broody v horni, ClecFongio, halio v siocled, brawd secsi Eleri, ffarmo, ffan mwyaf comedi Cymreig, perthnasoedd, hwrddo, camelod, anifeiliaid gwyllt mewn garejys, cathod mawr yng nghefn gwlad Cymru a llawer mwy...




Pennod 44 - Carys Huws

Sgwrs gyda’r ffotograffydd, cyfarwyddwr a chrewr cynnwys, Carys Huws, sy’n wreiddiol o Ffynnon Taf ond sydd bellach yn byw yn Berlin ac yn teithio’r glôb yn tynnu lluniau rhai o gerddorion ac artistiaid mwya’r byd. Pynciau llosg: Ani Glass, valley girl v city slicker, cyfoedion llwyddiannus, Eisteddfota, chwalu chwedlau, ffasiwn, Theatr Ieuenctid Cymru, dick pics, Studio 89, Clwb Ifor Burn Out, DJ-JizzyPuke, smoco v farts, cerddoriaeth electronig, Dazed, FACT, Corsica Studios, euogrwydd y Cymry, Red Bull, Solange, Bjork, Thundercat, Fly Lo, Iggy Pop, Nina Kravitz, Station Cafe, Captain Beany & The Baked Bean Museum of Excellence, hiraeth, Brexit, cyfryngau anghymdeithasol a mwy.


Pennod 43 - Ffion Dafis

Sgwrs gyda'r actores, cyflwynydd a chyfarwyddwr, Ffion Dafis. Pynciau llosg: bronnau ar y bws, Jim’ll Fix It, Yr Awr Fawr, crio ar ffilms, Shazam + Grwp + Glip, Dolwyddelan, breuddwyd gwlyb y canol ddosbarth, capel, colli ffydd, Bill & Ted, smoco, merched Maes G, problem fwyaf yr iaith Gymraeg, annibyniaeth, Theatr Fach Llangefni, Prifysgol Bangor, actio, iDot, John Hartson a Vinnie Jones, Amdani, gor-actio, Rownd a Rownd, Byw Celwydd, Brexit, waliau, galar, Anweledig, iselder, Lady McBeth, alcohol a llawer mwy.
 

 
Pennod 42 - Dylan Ebenezer a Garmon Ceiro


Sgwrs gyda dau hen ffrind i'r podlediad. Pynciau llosg: Bry: Mewn Cyfyng Gyngor, cruising for a bruising, annibyniaeth, BoJo, Brexit, Yellowhammer, booze a ffags, wilis a ffwfs, codiad hiraf hanes Cymru a llawer mwy. 
 


Pennod 41 - Gruff Rhys

Sgwrs hamddenol yn stiwdio Music Box, Caerdydd, gyda'r canwr / cerddor / cyfansoddwr / awdur / artist / llysgennad, Gruff Rhys. Pynciau llosg: PANG!, Gwenno, Africa Express, mynd â’r Gymraeg i bedwar ban byd, Muzi, recordio yn ystod oriau ysgol, y broses, celf a chrefft, Babelsberg, Uno Morales, Mark James, Psycho VII, yr Aphex Twin a’r Cynulliad, drymwyr, Dumb and Dumber, Cate le Bon, SFA, Ffa Coffi Pawb, Machlud, Maffia Mr Huws, archifio, Daf Ieuan, Disgo’r Llais, Ysgol Roc Bethesda, cyfansoddi, brawd Elton John, Mario C, Money Mark, Gorwel Owen a llawer mwy.




Pennod 40 - Eleri Morgan ac Esyllt Sears

Sgwrs hwyliog gyda’r comediwyr o Geredigion, Esyllt Sears ac Eleri Morgan. Rhybudd – lot o chwerthin yn groch a siarad dros ein gilydd. Pynciau llosg: The Bill, crio mewn carafan, Gŵyl Gomedi Caeredin, 30 munud llac, ansicrwydd, sbwriel, diflastod dringo Everest, millennials, daddy cool, y Brodyr Gregory, breuddwydion Esyllt, gwallt David Mellor, BoJo, Brexit, chwyldro, bullshit, ffarmwrs, Y Sioe, crysau-t anweddus, Omid Djalili + Meic Stevens, herio hiliaeth a llawer mwy.



 

Pennod 39 - Lleuwen a Manon Steffan Ros

Fersiwn byw o'r podlediad, wedi'i recordio yn Tafwyl 2019, yng nghwmni'r chwiorydd amryddawn o Riwlas, y gantores / cyfansoddwraig, Lleuwen, a'r awdur arobryn, Manon Steffan Ros. Pynciau llosg: Llyfr y Flwyddyn, ysgytlaeth banana, camthreiglo, Caerdydd, Michael Jackson v Morrissey, Bryn Fôn v Huw Chiswell, Oasis v Cole Porter, Ysgol Glanaethwy, chwydu ar athrawon, eisteddfota, ditties, A470, Llyfr Glas Nebo, Olew Olbas, jazz llyfn, Y Lleuanod, Gwn Glan Beibl Budr, dynsbonio, Von Trapps Cymru a mwy.




Pennod 38 - Huw Stephens

Sgwrs grwydrol gyda’r DJ o Gaerdydd a'r trysor cenedlaethol, Huw Stephens. Pynciau llosg: Capel y Crwys, Mewn ac Allah, hud a lledrith, llafur plant, Paul Daniels, Triciau Trefor, cerdded ar ddŵr, Johnny Cash, Cynan ar feinyl, Virgin Radio, cefndryd cerddorol Huw, Johnny R, Picnic, Datblygu, Meic Stevens, Super Furry Animals, Gorky’s, ANKST, Rookwood Sound, Bethan Elfyn, Radio 1, Caerdydd, canlyniadau Lefel A Huw, Noswyl y Mileniwm, Taffia, Boobytrap, Quodega, Galstonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Neuadd Baskerville, Four Tet, Potter v Mikey Snooze, Gwenno, Colorama, Heavenly Records, Kanye West, Beck, gwylio Prince mewn onesie a llawer mwy.
 

Pennod 37 - Sara Huws a Gareth Madeley
 Orig ddifyr iawn yng nghwmni’r Twitter legend, Gareth Madeley, a’r hanesydd Sara Huws. Pynciau llosg: Jack the Ripper, East End Women’s Museum, Twitter spats, llesiant meddwl, trolls, rhywiaeth bob dydd, etholiadau Ewrop, athrylith y Brexit Party, maes y gad ar-lein, arian tywyll, Gawker, diwedd democratiaeth, protestiadau diymadferth, pwyllgorau, ymgyrchu amgen, dadradicaleiddio, brwydro Nazis, Oswald Moseley, comics, Allo Allo, ailadrodd hanes, graffiti Cymraeg, newid hinsawdd, pŵer farts Madeley, y mwrllwch, ynni niwclear, gwin, biccies a llawer mwy.


Pennod 36 - Peredur ap Gwynedd
Awr a hanner yng nghwmni'r bwyellwr o Bont-y-Pwl, Peredur ap Gwynedd. Leg-end go iawn sydd wedi chwarae'r gitar gyda rhai o fawrion y byd roc a phop, gan gynnwys Geraint Jarman, Datblygu, Norman Cook / Fatboy Slim, Natalie Imbruglia, Sophie Ellis-Bextor, Kim Wilde, Pendulum a llawer mwy. Pynciau llosg: DOM, nostalgia, Titch Gwilym, enway anodd i'w hynganu, dildos Cymreig, roc trwm, Maffia, Crys, widdly-widdly-weeeeeeeee, jazz club... nice, i-dot, gigs mewn bwytai, Fox Mulder, ofergoelion cyn peffermio, strawpedos, teithio'r byd, seiclo a mwy.




Pennod 35 - Kev Tame
Sgwrs hynod ddiddorol gyda’r hyrwyddwr cerdd (Turnstile Records, Pyst ac ati) a chyn-aelod y bandiau Beganifs ac Acid Casuals, Kev Tame. Pynciau llosg: o dan ddylanwad John Tame, Waunfawr, Beganifs, bandiau pres, Bron a Methu, Gorwel Owen, Y Brodyr Gwynedd, Edward H, Ankst, Fideo 9, Criw Byw, gwreiddioldeb, Big Leaves, Firkin Rock, Melody Maker, Third Light, Acid Casuals, ffasiwn, techno, y 90au, kilts, Omni, Jah Soul, Turnstile Records, Girls, MySpace, Perfume Genius, Pyst, U-Thant, Serol Serol a llawer mwy.




Pennod 34 - Jon Gower
Sgwrs ddwys, digri a diddorol gydag un o awduron gorau’r genedl, Jon Gower. Pynciau llosg: Stephen Fry, acenion, cameos mewn llyfrau pobl arall, ysbrydion, gwrachod, pŵerau arallfydol, tylwyth teg, Jon y ditectif, pwysigrwydd darllen, adar, Iolo Williams, nadroedd, Russian roulette, peryglon meysydd parcio, Caerdydd, Oakland, y môr, Iain Banks, euogrwydd diwlliannol, Ed Thomas, Dewi Prysor, Lleucu Roberts, Ifan Morgan Jones, Catrin Dafydd, Manon Steffan Ros, e-lyfrau, dylanwadau, Owen Martell, Tony Bianchi, llyfrau Jon a llawer mwy...

 


Pennod 33 - Esyllt Sears a Garmon Ceiro
 Sgwrs feddwol gyda dau hen ffrind o'r pod. Pynciau llosg: crasho priodasau, Dai a Rea, cyfartaledd cwsg, operau sebon, Coldwar Steve, Carwyn Jones, clytweithiau, nats, is-etholiad Casnewydd, Plaid Simrw, anibynniaeth, Big Nev, Brexshit, TM a JC yn cael whitey, etholiadau Ewrop, pleidlais y bobl smyg, Macron, ysgolion preifat, chwyldro, Will Self, prynu pants, Ben yn mynd i'r Bala, hiliaeth, caws, Danny Gabbidon v Garmon Ceiro a llawer mwy.



 
Pennod 32 - Heledd Watkins
Yn cadw cwmni i fi ar y bennod hon ma prif-leisydd a gitarydd y band HMS Morris, cyflwynydd radio a theledu a charwr sushi, Heledd Watkins. Pynciau llosg: cacs, cathod, pesci-tarians, hipsters, Alan Partridge, deiet Ozzie’r ci, arias Eidaleg, Wcw’r Gwcw, Martha Wainwright, Goth-EMO-mainstream, llaeth, geneteg, dawnsio llinell, rasys cyfnewid, gitars, cawl a chân, Celsain, drum solos, Miles Davies, hambon cred, breuddwyd gwlyb y Theatr Gen, actio mewn tai bach, Pete a Nicky, Glyn Unwise, cyfryngau cymdeithasol, Emmy the Great, Chloe Howl, opera, rhyddid creadigol, Preston (y dyn, nid y dref), Race Horses, Jaws, Gorky’s, Mwsog, bois Blaenau, Cerys Mathews v Heledd v Kate Bush v Sam, morbid stupidity Llwyd, Glasto, Y Dyn Gwyrdd a gwely Freddie Mercury.



Pennod 31 - Ffion Wyn
Sgwrs ddwfn a doniol gyda'r DJ (Radio Caerdydd) a hyrwyddwr hip-hop (Ladies of Rage) o Gerlan, Ffion Wyn. Dyma fy ymdrech i efelychu un o fy hoff bodlediadau, sef ‘Hip-hop Saved my Life’ gyda Romesh Ranganathan. Fi wedi caru’r genre ers yr 1980au a dyma gyfle i geeko-mas gyda rhywun sy’n rhannu fy angerdd. Yn ystod y bennod, ni'n trafod ein hoff LPs, hoff artistiaid, cas bethau (gwraig-gasineb, trais, rhywiaeth, gwyngalchu), Queen Latifah, Monie Love, Roxanne Shante, Beastie Boys, Rufus Mufasa, 3 Hwr Doeth, Wu Tang v KFC, Stones Throw, Tribe Called Quest a'r Native Tongues, Madlib, Cardi B, Queen B, Kool Keith, Del the Funky Homosapien, Dan the Automator, Damien Albarn, Biggie, Nicki Minaj, Tystion, Cofi Bach a Tew Shady, Nobsta Nutts, Mr Phormula, Vanilla Ice, Tone Loc a llawer mwy. Ac ar ddiwedd y sgwrs, ma’ ’na fics byw nes i recordio rhyw ddeg mlynedd yn ôl sy’n cynnwys artistiaid sydd â chysylltiad â Stones Throw Records, cartref Madlib (sydd wedi cynhyrchu tua 50% o'r caneuon isod).



Pennod 30 - Sioned Mills ac Esyllt Sears
Pynciau llosg: dillad isaf Esyllt, fflaps, Dumpling, 70s bush, patriarchiaeth, ceseiliau Lleuwen, Just 17, lolis laxative, Jameela Jamil, iechyd meddwl, y normal newydd, persawr personol, ballet, elyrch, Sandra Bullock, No Deal dibyn, SoyBoys, Punkistani, ymerodraeth, Churchill, hiliaeth cynhenid gwleidyddol, British Brexit Corporation, Donald Tusk, Fleetwood Mac, Sexpot Sharon, Ian Dunt, Star Trek Discovery, Doug Jones, William Shatface, Broad City, Catastrophe, Cofio Tryweryn, Meic Stephens, Cymruphobia, gwrachod, Arthur Miller, pidyn drylliedig, dioddefaint, marwolaeth, crefydd, rhagrith, edifarhau.


Pennod 29 - Garmon Ceiro a Dylan Ebenezer
Sgwrs hanner call a dwl am, ymysg pethau arall: Cicio’r bwced, gwragedd gwych, Ffaith am Laeth, Ionawr sych, Brexshit, celwyddau’r Ceidwadwyr, David Davies Pantycelyn, rhagrith, MAYbot v ERG, Ian Dunt, mam James Goddard, vox plops, mudo i Rydaman, twrcis y Cymoedd, Llyfr Glas Nebo, Wylfa, tagfeydd traffig, trenau trydan, Gwlyptir Casnewydd v tarmac, Cont yr Wythnos, YesPlisCymru, eithafiaeth, Lexiters, growers v showers, ysbryd y nos, môr ladron.




Pennod 28 - Dan Thomas a Steffan Evans
Sgwrs hynod hilariws gyda'r comediwyr Dan Thomas a Steffan Evans. Pynciau llosg: Cacti, bongos, Richie Collins, Sweet Lou Dunbar, bysedd meddal Doctor Dingley, gigio dros Glawdd Offa, llosgi tai haf yn Aberystwyth, gigs sych, heclo, World Overdose Day, sin comedi Cymru, Sarah Breese, Chris Chopping, Lee Evans, Ardal O’Hanlon, Ffrinj Caeredin, vegan sosej rols, Bry – Brenin yr Hambons, Banksy, tatws mewn croen, addunedau blwyddyn newydd, moobs, grand theft ceffyl, camdrin cyffuriau a llawer mwy.



Pennod 27 - Daf Palfrey a Math Glyn
Hanes Hanner Pei yng nghwmni dau o aelodau'r band, sef Math Glyn a Daf Palfrey. Pynciau llosg: Sanau colledig, mean streets Llandaf, George Benson, the Young Ones, Prince, Cardi B, trips ysgol, babyfoot, James Brown, chwaeth cerddorol Sion Edwards, camthreiglo, cabaret arbrofol, Y Bechgyn Sydd Ddim yn Neis o Gwbl Doctor B, Beastie Boys, byrfyfyrio, Stid, yfed dan oed, Parri'r Barman, Dic Jones, Ann a'r Ci, Fideo 9, Geraint Jarman, Billy Clin, Cofion Ralgex, Geraint Lovejuice, pwrcasu, Monkees, Clwb Ifor Bach, Albert Hoffmann, U Thant, Ffarout, dwyn ffags Tynnal Tywyll, Nadolig Alcoholic a llawer mwy.


Pennod 26 - Gareth Madeley
Sgwrs ddwys (sort of!) am wleidyddiaeth gyda'r Twitter legend / arch-geek, Gareth Madeley. Pynciau llosg: Brexshit, cyfryngau anghymdeithasol, Nazis, Superman, pabïau, y rhyfel diwylliannol, ffasgiaeth, arian tywyll, Putin, y pantomeim gwleidyddol, swigod, acenion, farts a darts.
 


Pennod 25 - Griff Lynch
Awr a hanner yng nghwmni Griff Lynch, y cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr ffilm ac un o sefydlwyr y band poblogaidd, Yr Ods. Pynciau llosg: Band Pres Deiniolen, chicks, Plant Duw, Nirvana, Manics, Furries, Y Rods, David Wrench, rhyddid creadigol, Malcolm Allen, Nic Parri, Prydeindod v Cymreictod, Penrhosgarnedd, Fake ID, Ceir Cymru, Y Sybs, Mr Grumpy, Glastonbury, Colorama, Rio a Neo Nazis Cymreig o Wlad Pwyl.
 


Pennod 24 - CARW
Yn y bennod hon, mae'r cerddor o Lanfyllin, Owain Griffiths, aka Carw, yn ymuno gyda fi yn y sied i siarad am Wet Wet Wet, Plethyn, John ac Alun, Anweledig, syrffio ceir, cachu yn yr ardd, tutus, retrowanks, Violas, stwmps, Recordiau Blinc, rhyddid creadigol, ysbrydion, ei LP newydd a llawer mwy.



Pennod 23 - Siôn Tomos Owen

Siat grwydrol yng nghwmni'r arlunydd slash awdur slash bardd slash cantor slash cyflwynydd teledu slash llwyth o bethau arall o Dreorci, Siôn Tomos Owen. Pynciau llosg: crio mewn gig Gareth Bonello, darlunio ar focs pizza, y ffordd gywir i gyfarch Dafydd Iwan, blagio gyrfa greadigol, hunan-bortreadau, India, y Cymoedd, tai bach cyhoeddus hudol Blaenau Ffestiniog a lot mwy.



Pennod 22 - Sioned Mills ac Esyllt Sears

Sgwrs hynod ddifrifol (!) arall gyda'r gomediwraig (or not) Esyllt Sears a'r bodledwraig (or not) Sioned Mills. Pynciau llosg yn cynnwys fuckfest llwyr Y Byd Yn Ei Le a deilydd cystadleuaeth 'Cont yr Wythnos', Katie Hopkins; tsilis; myfyrwyr; asthma / mamladdiad; podlediadau; ffilmiau; llyfrau a llwyth o bethau arall.


 

Pennod 021 - Hanna Jarman a Siôn Alun Davies


Sgwrs hynod hwyliog am eu hanturiaethau yn tyfu lan yng Nghaerdydd gyda'r show-offs proffesiynol, Hanna Jarman a Siôn Alun Davies. Pynciau llosg: perm Geraint Jarman, halio cyn y rhyngrwyd, pa mor sgwâr oedd Hannan'n tyfu fyny, y gansen, Capel y Crwys, eisteddfota gyda Dave Datblygu, moshpits, athrawon cas, LSD a llwyth o shout-outs dienw.

 

Pennod 020 - Garmon Ceiro a Dylan Ebenezer

Ar ôl haf hir a hyfryd (o ran y tywydd, ta beth), fi nôl am bennod llawn chwerthin croch a ffeithiau amheus yng nghwmni Gammon Ceiro a Des Lynam Cymru i drafod Eisteddfod Heb Ffens Bae Caerdydd 2018, Brexshit, y frwydr am arweinyddiaeth (ac enaid!) Plaid Cymru, cystadleuaeth Cont yr Wythnos a fish & chips cachlyd Redcar.


Pennod 019 - Esyllt Sears a Sioned Mills

Sgwrs hynod ddifrifol (!) gyda'r gomediwraig Esyllt Sears a'r bodledwraig Sioned Mills. Pynciau llosg yn cynnwys Brexshit, pleidleisio procsi, yr UNIG ffordd o gymryd Calpol, Honey I Shrunk the Kids, Harri Tudur v Alun Cairns, column inches, shitbombs, slags, tats, Ian Rush, cyfryngau anghymdeithasol a chachlwyth o nonsens arall.
    

Pennod 018 - Elis James

Wel-wel a jiw-jiw, fi wedi rhwydo Big Time Charlie go iawn yn y bennod hon! Mae Elis James yn lot fawr o bethau - hanner hambon, comediwr, actor, cyn-gerddor, stato pêl-droed, cyflwynydd teledu a, fel nes i ddarganfod yn ystod y noson y treuliom ni yng nghwmni ein gilydd, boi hyfryd a diymhongar tu hwnt. Pynciau llosg: acenion a threigliadau, y caffi mwyaf cool yng Nghymru (feat. Cate le Bon, Sweet Baboo, Jemma Roper a H Hawkline), athrylith Peter Kaye, dynwaredwyr llwyddiannus, Rhod Gilbert, Mock the Week, tyfu fyny yng Nghaerfyrddin, Super Furry Animals a chenedlaetholdeb.



Pennod 017 - Elan Evans a Garmon ab Ion

I ddathlu Tafwyl 2018, dyma bennod arbennig yng nghwmni'r DJs amryddawn, Elan Evans a Garmon ab Ion, yn trafod eu profiadau o dyfu lan yn y brifddinas. Pynciau llosg: ydy plant Ysgol Plasmawr yn casau plant Ysgol Glantaf (fel pawb arall)?, muff vodka, yfed dan oed, chwydu dros bob man, cachu pants ar ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol, trychineb Hysel, Eggy Wen, llysenwau, bandiau a lot fawr o bollocks arall.

 
Pennod 016 - Gareth Potter

Mae Gareth Potter wedi bod yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru ers dechrau'r 1980au: fel aelod o'r bandiau Clustiau Cwn, Traddodiad Ofnus, Pop Negatif Wastad a Ty Gwydr; fel actor ar Eastenders, The District Nurse, Slac yn Dynn, High Hopes, Casualty a Torchwood ymysg cyfresi eraill; fel cyflwynydd teledu (Straeon y Ffin a Gadael yr Ugeinfed Ganrif); ac fel DJ ac arbenigwr cerddoriaeth o Gymru. Yn ystod y sgwrs, bydd Gareth yn eich tywys o gymoedd de Cymru ei blentyndod trwy ddyddiau tywyll ei arddegau wrth law un o bedoffiliaid mwyaf drwg-enwog y wlad, John Owen, a thu hwnt. Ar adegau yn ddwys, yn gyson ddoniol, ond wastad yn ddiddorol.



Pennod 015 - Garmon Ceiro a Dylan Ebenezer

Am yr eildro mewn cwpwl o fisoedd, mae Gammon Ceiro a Des Lynam Cymru yn ymuno gyda fi yn y sied i drafod y newyddion diweddaraf o Gymru a thu hwnt. Ar y fwydlen: Brexshit, Cwpan y Byd, Plaid Cymru, hiliaeth, y bromance mwyaf rhyfedd ers Turner & Hooch, yr oedran cywir i adael gartref, mwncis horni Penscynor a bwystfileidd-dra.
 


Pennod 014 - Catrin Dafydd


Yn ogystal â bod yn fardd, dramodydd, sgriptiwr, cyflwynydd radio ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwestai'r bennod hon wedi cyhoeddi pump nofel (Pili Pala, Y Tiwniwr Piano, Random Deaths and Custard, Random Births and Love Hearts a Gwales) gyda'r ddiweddaraf wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2018. Yn ystod y sgwrs ni'n trafod ein hatgofion llenyddol cynharaf, y broses o ysgrifennu, ein hamser yn yr ysgol, annibyniaeth i Gymru a nifer o bethau arall fi wedi anghofio amdanynt.

Pennod 013 - Carys Eleri

Sgwrs grwydrol gyda'r actores o'r Tymbl, sy'n rhoi sylw i 'The Dic Deryn Effect', Bergerac, Columbo, Mathew Rhys, Martin Geraint, rugger buggers, lesbiaid Abertawe a'r cylch, Merlin & The War of the Dragons, Theatr Genedlaethol Cymru, Radio 4, Pride & Prejudice mewn Eidaleg, Charlie Church, trafnidiaeth cyhoeddus Solfach, y gyfres ddrama Parch a sioe gerddorol un-dynes newydd sbon Carys, Lovecraft: Not the Sex Shop in Cardiff a fydd yn rhan o Wyl Llais Caerdydd 2018.



Pennod 012 - Garmon Ceiro a Dylan Ebenezer

Mewn wythnos sydd wedi gweld llywodraeth y DU yn arwain y genedl i ryfel arall, mae 'Rod Liddle y Cymro' a 'Des Lynam Cymru' yn ymuno â fi yn y sied i drafod Syria, Trumpageddon, Cymruphobia, Pont y Gont, hil-iaith, hedfan a halio, yfed dan oed yn Aber, 'Lyn Ebenezer in Sun reading shocker' a breuddwydion dynion canol oed.



Pennod 011 - Yws Gwynedd

DDGCAR Ar Daith, Pasg 2018 - Rhan 2.
 Orig ddifyr yng nghartref hyfryd cantor mwyaf poblogaidd Cymru. Na, dim Bryn F
ôn, ond Ywain Gwynedd. Mae Yws bellach yn gerddor llawn amser, ond ar un adeg roedd ei bryd ar fod yn beldroediwr proffesiynol... tan i ryw dwat gwrth-Gymreig yn Crewe godi gwrychyn ei fam. Mae Yws a fi'n trafod nifer o bethau yn ystod y bennod, gan gynnwys tarddle ei enw rhyfedd, pam fod Bob Dylan yn mynnu canu trwy ei drwyn, dylanwad annisgwyl Meatloaf ar ei yrfa, addysg grefyddol, ei fand cyntaf (o bwys) Frizbee, ei fand cyfredol, 'Yws Gwynedd', ein cyfarfod cyntaf ar long ar Fôr Iwerddon, a'r posibilrwydd o ddechrau byddin chwyldroadol os bydd cost tanysgrifiad teledu Sky yn codi eto.
 

  
Pennod 010 - Dyl Mei

DDGCAR Ar Daith, Pasg 2018 - Rhan 1.
Siat (ie, siat) grwydrol yng nghwmni'r cynhyrchydd cerdd o Benrhyndeudraeth, Dyl Mei. O'i blentyndod ym Mhorthmadog i'w amser yn rhedeg Stiwdio Blaen y Cae yng Ngarndolbenmaen (lle gynhyrchodd Dyl recordiau gan Gwyneth Glyn, Texas Radio Band, Pep le Pew a Tecwyn Ifan, ymysg eraill), ac o'i anturiaethau gyda'r bandiau hip-hop Pep le Pew a Genod Droog i'w r
ôl gyfredol gyda'r BBC fel curadur cerddorol i'r genedl a'r glud sy'n cadw sioe Tudur Owen rhag cwympo'n ddarnau (!), dyma gyfle gwych i glywed Dyl yn trafod rhai o'i hoff bynciau mewn manylder.


Pennod 009 - Dafydd James

Mae Dafydd James yn ddyn talentog. Yn ddyn talentog tu hwnt. Actor. Cerddor. Sgriptiwr. Dramodydd. Mae ei lwyddiannau yn hirfaith a'r gwobrwyon yn pentyrru. Disgrifiodd Jon Gower Llwyth fel "y ddrama Gymraeg orau i gael ei chynhyrchu yn ystod fy mywyd", tra enillodd ei greadigaeth cerddorol, Sue, wobr Total Theatre 2009. Yn ystod ein sgwrs, mae Daf yn sôn am dyfu lan fel bachgen hoyw ym Mro Morgannwg, ei yrfa amrywiol, ei berthynas gyda Chymru a'r iaith Gymraeg, ei brosiectau newydd a mabwysiadu plant.



Pennod 008 - Gareth Bonello


Y Bardd Anfarwol ei hun a pherchennog un o'r lleisiau mwyaf llyfn ar wyneb y ddaear. Gareth Bonello, aka The Gentle Good. O'i fagwraeth yn yr Eglwys Newydd i'w anturiaethau ar gylchwyl open mic Caerdydd, ac o'i amser yn cyfri adar yng ngogledd orllewin Lloegr i'w yrfa arobryn sydd wedi'i weld yn teithio'r byd. Mae Gareth wedi rhyddhau llond llaw o EPs a llond llaw arall o LPs (hyd yn hyn) - dyma sgwrs ddiddorol a gweddol ddwys (ar adegau!) gydag un o gerddorion mwyaf poblogaidd Cymru. Os nad ydych chi'n gyfarwydd gyda'i gerddoriaeth, mae llwyth ar gael ar-lein (yn y llefydd arferol), gan gynnwys y fersiwn anhygoel yma o River Man gan Nick Drake.

      

Pennod 007 - Rufus Mufasa


Awr o sgwrsio angerddol yng nghwmni'r bardd, rapiwr, addysgwr a chorwynt creadigol, Rufus Mufasa. Yn wreiddiol o Rydaman, ond nawr yn byw ym Mhontypridd, mae Rufus wedi bod yn perfformio yn y byd hip-hop ers degawd a mwy. Mae hi newydd ryddhau ei LP cyntaf, Fur Coats From The Lion's Den, sy'n hollol wych, yn ogystal â chael ei henwebu (mewn dau gategori) ar gyfer Gwobr Cerddoriaeth Caerdydd. Gwrandewch! Pleidleisiwch! Beichiogwch!
 


Pennod 006 - Garmon Ceiro


'Llwyd a Garmon yn Siarad Shit yn y Shed'. Sgwrs gynyddol aflêr gydag un o fagabonds mwyaf y Twittersphere, Garmon Ceiro. Fel fi, mae Garmon yn gyfieithydd yn ystod y dydd ac yn archarwr llenyddol gyda'r nos, yn sgriptio'r cymeriad 'Bryan' ar ran Hansh / Sianel Pump (S4C). Pynciau llosg y bennod: Cymruphobia, Brexshit, y wasg a datganoli darlledu, recordiau halio personol a strippers mewn priodasau. 

   
 Pennod 005 - Mari Beard a Hanna Jarman


RHYBUDD! Mae'r bennod hon yn cynnwys llawer o LOLian a siarad ar draws ein gilydd. Er hynny, mae'r sgwrs yn hollol hilariws ac yn llawn straeon a henesion hurt tu hwnt, diolch yn bennaf i ddwy o actorion mwyaf talentog Cymru. Mari a Hanna yw dwy o sêr Chwarter Call, y gyfres gomedi i blant ar S4C, er nad yw hynny'n gwneud cyfiawnder gyda'r sioe o gwbl. Pynciau llosg y bennod: plant yn ystumio yn yr Eisteddfod; dawnsio Mecsicanaidd; pam fod pawb yn casau disgyblion Glantaf?; beth yw'r gwahaniaeth rhwng acen Swydd Efrog ac acen Bolton?; a rhywiaeth bob dydd.
 

   
Pennod 004 - Tom Raybould


Orig ddifyr yng nghwmni fy hen ffrind ysgol, y cerddor amryddawn ac arobryn, Tom Raybould. O'i ddyddiau cynnar yn chwarae gyda'r bandiau Superfuzz a Robin Reliant, i yrfa gynhyrfus a chyffrous, yn gyntaf fel cyflwynydd teledu ar y gyfres Garej, ac yna fel cyfansoddwr i nifer o raglenni teledu a ffilmiau, mae stori Tom yn un sy'n werth ei chlywed. Yn ei amser hamdden, mae Tom yn chwarae gyda Quodega ac mae albym cynta'r band ar gael trwy Recordiau Bubblewrap.
  


Pennod 003 - Ifan Morgan Jones


Chinwag ddiddorol gydag un o fy hoff awduron a ffigwr blaenllaw yn newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth Cymru. Mae Ifan wedi cyhoeddi tair nofel wych, Igam Ogam, Yr Argraff Gyntaf a Dadeni, a fe yw golygydd y wefan Nation. Yn ystod y sgwrs, ni'n trafod llenyddiaeth, chwedloniaeth, gwleidyddiaeth, annibyniaeth, newyddiaduraeth a nifer o bethau eraill sy'n gorffen gydag 'aeth'.



Pennod 002 - Ani Glass

Sgwrs grwydrol go iawn yng nghwmni'r gantores o Gaerdydd, Ani Glass. Ymhlith pynciau eraill, mae'r ddau ohono ni'n rhoi'r byd yn ei le ac yn trafod ei gyrfa, ei phlentyndod, annibyniaeth i Loegr (!), ein cariad at Gaerdydd a Chymru, Tywysoges Monaco a dawnsio gwirion. Dilynwch Ani ar Twitter a gwrandewch ar ei cherddoriaeth fan hyn.





Pennod 001 - Carwyn Ellis

Ym mhennod gyntaf y podlediad, Carwyn Ellis (@coloramasound), "y trwbadwr sinsir o Sir Fôn", sy'n ymuno â Llwyd yn y sied i siarad am ei yrfa anhygoel. Ar ôl degawd yn chwarae gyda rhai o fandiau ac artistiaid mwya'r byd (Oasis, UNKLE, Saint Etienne, Edwyn Collins, Sarah Cracknell a Shane McGowan, ymhlith eraill) ffurfiodd Carwyn y band Colorama yn 2007, sydd bellach wedi rhyddhau wyth albwm. Yn ogystal â Colorama, mae Carwyn yn rhan o brosiect Bendith gyda'r band gwerin Plu, yn recordio cerddoriaeth electronig fel Zarelli ac yn aelod o'r band The Pretenders.